Comisiwn y Cynulliad

 

Lleoliad:

Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Ty Hywel

 

Dyddiad:

Dydd Iau, 27 Medi 2012

 

Amser:

10: - 12:45

 

 

 

Cofnodion:  AC(4)2012(7)

 

 

 

Yn bresennol:

 

Rosemary Butler (Cadeirydd)

Peter Black

Angela Burns

Sandy Mewies

Rhodri Glyn Thomas

 

 

 

 

 

Swyddogion yn bresennol:

 

Claire Clancy, Y Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad (Swyddog)

Adrian Crompton, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad (Swyddog)

Craig Stephenson, Prif Ysgrifennydd Preifat y Llywydd (Swyddog)

Keith Bush, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol (Swyddog)

Steven O'Donoghue, Pennaeth Adnoddau'r Cynulliad (Swyddog)

Nicola Callow, Pennaeth Cyllid (Swyddog)

Dave Tosh (Swyddog)

Non Gwilym (Swyddog)

Carys Evans, Prif Ysgrifennydd y Comisiwn (Swyddog)

 

 

 

 

 

 

Eraill yn bresennol:

 

Mair Barnes, Cynghorwr Annibynnol

David Melding, y Dirprwy Lywydd

 

 

 

 

 

<AI1>

1.  Cyflwyniad y Cadeirydd

 

</AI1>

<AI2>

1(i)        Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

 

Bydd Keith Bush, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol, yn gadael y Cynulliad ym mis Hydref. Diolchodd y Llywydd a'r Comisiynwyr i Keith am ei gyngor a'i wasanaeth arbenigol ac amhrisiadwy yn ystod ei amser yn y Cynulliad a dymuno'n dda iddo yn y dyfodol. 

 

</AI2>

<AI3>

1(ii)       Datganiadau o fuddiant

 

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

 

</AI3>

<AI4>

1(iii)      Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

 

Cytunodd y Comisiynwyr ar gofnodion 12 Gorffennaf 2012.

 

</AI4>

<AI5>

2.  Cyllideb ddrafft 2013-14

 

Mae'r Rheolau Sefydlog yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiwn osod ei gyllideb ddrafft yn flynyddol erbyn 1 Hydref.  Mae cyllideb ddrafft 2013-14 y Comisiwn yn nodi'r adnoddau ariannol sydd eu hangen i ddarparu gwaith Gwasanaethau'r Cynulliad sy'n flaenoriaeth yn ogystal â'r gyllideb sydd ei hangen i ariannu Penderfyniad y Bwrdd Taliadau ar gyfer Aelodau'r Cynulliad. 

 

Cytunodd y Comisiwn ar ei gyllideb ddrafft, a gofyn iddo gael ei osod yn unol â'r Rheolau Sefydlog.  Bydd Angela Burns AC, y Comisiynydd â chyfrifoldeb dros adnoddau, yn mynd i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid ar 3 Hydref 2012 i sesiwn graffu ar y gyllideb ddrafft.

 

Diolchodd y Comisiynwyr i'r swyddogion am eu gwaith ar y gyllideb ddrafft hyd yma.

 

Cytunwyd na fyddai'r papur yn cael ei gyhoeddi gan y byddai'r gyllideb ddrafft yn cael ei gosod y diwrnod canlynol.

 

Cam i'w gymryd: Swyddogion i osod dogfen cyllideb ddrafft 2013-14 gerbron y Cynulliad ar 28 Medi 2012

 

</AI5>

<AI6>

3.  Strategaeth ddrafft ar gyfer gwasanaethau TGCh yn y dyfodol

 

Bydd Cytundeb Merlin, ar gyfer darparu gwasanaethau TGCh i'r Cynulliad, yn dod i ben yn 2014.  Mae'n ofynnol bod y Comisiwn yn hysbysu Llywodraeth Cymru ac Atos o'i benderfyniad ynghylch darparu gwasanaethau TGCh i'r Cynulliad yn y dyfodol erbyn mis Ebrill 2013. 

Ym mis Tachwedd 2011, cytunodd y Comisiwn i asesu dau opsiwn: ymestyn cytundeb Merlin; neu symud at ddarpariaeth fewnol gymysg.

Ystyriodd y Pwyllgor ei strategaeth ddrafft ar gyfer gwasanaethau TGCh yn y dyfodol a chytuno i ddod i benderfyniad o ran darpariaeth gwasanaethau TGCh yn y dyfodol ym mis Tachwedd 2012.

 

Bydd y Comisiynwyr yn trafod hyn ymhellach mewn cyfarfod ychwanegol ym mis Hydref. 

 

Cytunwyd na fyddai'r papur yn cael ei gyhoeddi oherwydd natur fasnachol ei gynnwys.

 

Cam i'w gymryd: Swyddogion i ddarparu costau manylach.

 

</AI6>

<AI7>

4.  Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) a’r Cynllun Gwasanaethau Dwyieithog

 

Trafododd y Comisiwn drafodion Cyfnod 3 a 4 y Bil, sydd i ddigwydd yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 3 Hydref, a chlywed y wybodaeth ddiweddaraf ar faterion yn ymwneud â'r Bil a'r Cynllun.

 

Diolchodd y Comisiynwyr i'r swyddogion am eu hymdrechion hyd yma yn cefnogi'r Bil wrth iddo gael ei ystyried gan y Cynulliad.

 

</AI7>

<AI8>

5.  Y wybodaeth ddiweddaraf ac awgrymiadau gan y Comisiynydd

 

Rhannodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am faterion yn ymwneud â'u portffolios.

 

Darparu cefnogaeth seneddol o'r radd flaenaf

 

Mae’r gweithgareddau a ganlyn yn mynd rhagddynt: datblygu technoleg XML ar gyfer trafodion y Cyfarfod Llawn, datblygu Ap ar gyfer y Cynulliad, ac ymestyn cyfleusterau di-wifr ar draws yr ystâd.

 

Defnyddio adnoddau'n ddoeth

 

Clywodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am adolygiad y Bwrdd Taliadau Annibynnol o staff Aelodau'r Cynulliad a'r adolygiad o drefniadau pensiwn Aelodau'r Cynulliad.

 

</AI8>

<AI9>

6.  Papur i'w nodi – Cofnodion y Pwyllgor Archwilio

 

Cafodd y Comisiwn y wybodaeth ddiweddaraf ar lafar yng nghyfarfod y Comisiwn ar 12 Gorffennaf, ond nid oedd y cofnodion ar gael i'w cymeradwyo yn y cyfarfod hwnnw.  Nododd y Comisiwn y cofnodion.

 

</AI9>

<AI10>

7.  Unrhyw Fusnes Arall

 

Clywodd y Comisiynwyr fod set newydd o Gynghorwyr Annibynnol yn cael eu recriwtio ar hyn o bryd.

 

Rhoddodd Keith Bush y wybodaeth ddiweddaraf i'r Comisiynwyr am yr her i gymhwysedd y Cynulliad o ran Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru).

 

 

Yr Ysgrifenyddiaeth

Medi 2012

 

</AI10>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

 

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

 

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>